GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 11 Rhagfyr 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
8 Ionawr 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
yr wythnos sy'n dechrau ar 7 Ionawr 2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
10 Ionawr 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 44 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r offeryn hwn yn rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r diffygion yng nghyfundrefn Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE ("EU ETS"). Mae'r offeryn hwn yn diwygio deddfwriaeth sydd, yn bennaf, o fewn cymhwysedd datganoledig pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â masnachu carbon. Fodd bynnag, mae elfennau sydd y tu hwnt i gymhwysedd. Mae'r offeryn hefyd yn mynd i'r afael â diffygion penodol o fewn deddfwriaeth yr UE a ddargedwir o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Pe bai’r DU yn ymadael âr UE heb fargen, ni fyddai gan y DU gytundeb ar waith i barhau i gymryd rhan yn ETS yr UE. Felly, byddai'r DU yn gadael ETS yr UE ar y diwrnod ymadael, gan wneud y ddeddfwriaeth bresennol yn anymarferol. Mae'r offeryn hwn yn dirymu darpariaethau penodol a fydd yn dod i ben ar y diwrnod ymadael ac yn diwygio eraill fel y byddant yn parhau i fod yn ymarferol ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae'r offeryn yn cynnal yr elfennau a fydd yn parhau i fod yn ymarferol, ac yn gwneud mesurau datrys technegol iddynt, sef Monitro, Adrodd a Gwirio (MRV) allyriadau nwyon tŷ gwydr. Nod MRV yw sicrhau tryloywder dros allyriadau nwyon tŷ gwydr, a darparu gwybodaeth i ganiatáu gweithredu 'Treth Allyriadau Carbon' Trysorlys Ei Mawrhydi (a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref 2018). Bydd y Dreth yn disodli dros dro bris carbon ETS yr UE a gollir mewn senario 'Dim Bargen', gan gadw polisi prisio carbon ar gyfer diwydiant mewn cyfnod interim (h.y. o'r diwrnod ymadael nes bydd dewis amgen hirdymor wedi'i sefydlu). Fodd bynnag, bydd sylwedd y polisi prisio carbon interim hwn yn cael ei gynnwys mewn pŵer o dan Fil Cyllid 2018-19, a fydd yn cael ei drafod gan y Senedd ar wahân, ac nid yw'n rhan o'r offeryn hwn.
Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r offeryn hwn yn nodi nad oes gan y polisi interim ragfarn i unrhyw benderfyniad terfynol ar ddull y DU o ran prisio carbon yn y dyfodol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 12 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|